Mae Flybe wedi cadarnhau ei fod wedi dod i gytundeb ariannol i ohirio taliadau treth “o lai na £10m” gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).

Mae’r cwmni hedfan, a gafodd ei achub gan y Llywodraeth ddydd Mawrth, wedi dweud mai dim ond am “ychydig fisoedd” y bydd y cytundeb yn ei le cyn bod yr holl drethi wedi cael eu talu’n llawn.

Yn ôl adroddiadau, mae Flybe wedi cael gohirio talu Toll Teithwyr Awyr (APD) sef y dreth sy’n cael ei thalu gan gwsmeriaid a’i chasglu gan gwmnïau hedfan cyn cael ei rhoi i HMRC.

Ond mae’r Llywodraeth a Flybe wedi gwrthod cadarnhau ai dyma’r dreth sydd dan sylw gan ddweud bod gohirio gwneud taliadau treth yn “gyffredin i gwmnïau sydd mewn trafferthion ariannol.”

Ond mae cwmnïau hedfan eraill wedi dweud na ddylen nhw gael eu cosbi am fod yn llwyddiannus ac y dylen nhw gael “gwyliau” rhag talu’r dreth.