Mae ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur wedi cael ei beirniadu’n hallt am ei chynlluniau i “guro cenedlaetholdeb cul”.

Mae Lisa Nandy am i’r Blaid Lafur sefydlu ‘comisiwn rhyngwladol’ er mwyn dysgu sut all ei phlaid sosialaidd guro pleidiau cenedlaetholgar. 

Ac mi rodd gynnig ar amddiffyn y syniad yma ar The Andrew Neil Show y BBC gan ddadlau bod modd dysgu o enghreifftiau Catalwnia a Quebec.

Bellach mae wedi cael ei beirniadu’n chwyrn am ei sylwadau, gyda rhai’n ei chyhuddo o eisiau dysgu o ymateb treisgar Llywodraeth Sbaen i genedlaetholwyr Catalwnia.

Sylwadau Lisa Nandy

“Mae sosialwyr wedi cael eu curo tro ar ôl tro gan genedlaetholwyr,” meddai ar y rhaglen. “Ac mae’r syniad yma bod gyda ni gyd yr atebion yn y Blaid Lafur. Ond, sori, does dim un person yn credu hynny. 

“Dw i ddim yn credu bod unrhyw beth yn bod â dweud …y dylwn droi at wledydd eraill a rhannau eraill o’r byd sydd wedi gorfod delio â chenedlaetholdeb sy’n hollti pobol. 

“’[Llefydd] sydd wedi gorfod dysgu gwersi o’r adegau prin yna yn hanes, yn llefydd fel Catalwnia a Quebec, lle rydym wedi gallu mynd a churo cenedlaetholdeb cul gydag agenda cyfiawnder cymdeithasol.”

Ymateb cyfryngau cymdeithasol

“Mae’n ymddangos fel bod Llafur eisiau colli,” meddai Aelod Seneddol Perth a North Perthshire sydd yn cyhuddo’r Aelod Seneddol o gynnig “torri penglogau” y rheiny sydd eisiau annibyniaeth. 

“Torri pennau, heddlu reiat, a charcharu gwleidyddion sydd wedi’u hethol?” meddai Iain MacWhirter, colofnydd i’r Herald. “Plîs, dywedwch fy mod i wedi cam-glywed.”  

Mae ymgyrchydd o’r enw Stephen Paton wedi cyhuddo’r ymgeisydd o geisio curo mudiad annibyniaeth yr Alban â “thrais plismyn”.