Adroddiadau bod Flybe “ar fin mynd i’r wal”

 
Awyren

Llun CC0

Yn ôl adroddiadau, mae’r cwmni hedfan Flybe ar fin mynd i’r wal.

Flybe yw’r cwmni hedfan rhanbarthol mwyaf yn Ewrop ac mae’n hedfan o Gaerdydd ymhlith lleoliadau eraill.

Mae ‘na adroddiadau bod y cwmni mewn trafodaethau brys gyda’r Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a’r Adran Drafnidiaeth i weld a allai’r Llywodraeth roi cymorth ariannol brys i Flybe.

Mae hyd at 2,000 o swyddi yn y fantol.

Dywedodd y cwmni nad ydyn nhw’n “ymateb i sïon a dyfalu” a’u bod yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau’r gwasanaeth gorau i’w cwsmeriaid.

Mae Flybe yn hedfan 8.5 miliwn o deithwyr bob blwyddyn i 170 o lefydd yn Ewrop.

Ym mis Chwefror y llynedd cafodd y cwmni ei brynu am £2.2m gan gonsortiwm oedd yn cael ei arwain gan Virgin Atlantic yn dilyn canlyniadau ariannol gwael.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones