Fe fydd Dug Sussex yn cyfarfod â’r Frenhines heddiw (Dydd Llun, Ionawr 13) wrth i’r teulu brenhinol geisio gwneud trefniadau ynghylch dyfodol Harry a Meghan Markle.

Y cyfarfod yn Sandringham  fydd y tro cyntaf i’r Tywysog Harry gyfarfod aelodau o’i deulu, gan gynnwys y Tywysog Charles a Dug Caergrawnt, ers iddo ef a’i wraig, Meghan Markle, gyhoeddi eu bod yn bwriadu camu yn ôl fel aelodau blaenllaw o’r teulu brenhinol ac ennill eu bywoliaeth eu hunain.

Mae Meghan Markle gyda’i mab Archie yng Nghanada, ond mae hi’n debygol o ymuno â’r drafodaeth dros y ffôn.

Dyw hi ddim yn glir faint o’r gloch mae’r teulu’n bwriadu cyfarfod, a pha mor hir fydd y cyfarfod yn parhau i geisio datrys y sefyllfa.

Ond mae son fod rhai ym Mhalas Buckingham yn poeni y gallai Dug a Duges Sussex gynnal cyfweliad teledu a fyddai’n niweidiol i’r teulu brenhinol os nad ydyn nhw’n cwrdd a’u gofynion.

Mewn erthygl yn y Sunday Times, dywedodd Tom Bradby – sy’n ffrind i’r Tywysogion Harry a William: “Mae gen i ryw syniad o beth allai gael ei drafod mewn cyfweliad, a dw i’n meddwl y gallai fod reit hyll.”