Fe fydd dau ymgeisydd sydd yn y ras i olynu Jeremy Corbyn fel arweinydd Llafur yn clywed heddiw (dydd Llun, Ionawr 13) a ydyn nhw wedi cael digon o gefnogaeth i barhau i ail rownd y gystadleuaeth.

Mae gan Emily Thornberry a Clive Lewis hyd at 2.30pm ddydd Llun i sicrhau enwebiadau gan 22 o Aelodau Seneddol ac Aelodau Seneddol Ewropeaidd Llafur er mwyn mynd ymlaen i’r ail rownd.

Erbyn Dydd Sul, roedd Emily Thornberry wedi sicrhau 10 pleidlais a Clive Lewis wedi cael pedair.

Mae’r pedwar ymgeisydd arall Syr Keir Starmer, Rebecca Long-Bailey, Lisa Nandy a Jess Phillips eisoes wedi sicrhau digon o enwebiadau i barhau i’r rownd nesaf.

Yn y ras ar gyfer swydd y dirprwy arweinydd, mae dau ymgeisydd – Angela Rayner ac Ian Murray – eisoes wedi sicrhau digon o enwebiadau i fynd ymlaen i’r ail rownd.

Y tri ymgeisydd arall yw Richard Burgon gydag 18 pleidlais, Rosena Allin-Khan gydag 17 a Dawn Butler gyda 15.