Mae Clive Lewis, un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Llafur, yn dweud mai “hiliaeth oedd wrth galon Brexit”.

Mae llefarydd y Trysorlys yn y ras i olynu Jeremy Corbyn, ond mae’n ei chael yn anodd sicrhau digon o gefnogaeth ar hyn o bryd.

Pedwar enwebiad sydd ganddo o hyd, ond mae angen 22 arno er mwyn cael sefyll.

Mae’n cyhuddo gwleidyddion fel Nigel Farage o “rannu ein cymunedau” wrth geisio gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hefyd yn cyhuddo’r cyfryngau o hiliaeth yn erbyn Duges Sussex, Meghan Markle, wrth ymateb i ffrae’r teulu brenhinol.

“Rydym yn gwybod fod hyn yn realiti’r unfed ganrif ar hugain o hyd, ar ôl 400 o flynyddoedd o hiliaeth,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News.

“Dw i’n meddwl fod rhannau o’r ymgyrch Brexit, a rhan o is-lais Brexit, gan rai gwleidyddion fel Nigel Farage ac eraill, â hiliaeth wrth ei chalon a’i chraidd.

“Fe wnaethon nhw ei ddefnyddio fel mecanwaith i rannu ein cymunedau a’n gwlad.”

“Faint o bobol o liw oedd wedi dihuno’r bore trannoeth yn llawn edifeirwch am yr hyn ddigwyddodd?

“Yn y pen draw, fe wnaeth ein gwlad benderfynu gwrando ar Boris Johnson, rhywun sydd â record o sylwadau hiliol ac o roi hygrededd i hiliaeth.”