Mae cynulliad Gogledd Iwerddon yn ailagor heddiw ar ôl bod yn segur am dair blynedd.

Fe fydd aelodau’n ethol llefarydd ac yn enwebu gweinidogion ar gyfer y llywodraeth ddatganoledig gyntaf yn y dalaith ers 2016.

Mae trafodaethau o dan arweiniad llywodraethau Prydain ac Iwerddon wedi llwyddo i ddatrys anghydfod hir rhwng dwy blaid fwyaf y cynulliad, sef Sinn Fein a’r DUP.

Rhan hanfodol o’r cytundeb yw cynllun gan y ddwy lywodraeth i greu dau gomisiynydd iaith fel rhan o bolisi diwylliannol o roi statws swyddogol i’r Wyddeleg gan warchod diwylliant Prydeinig Ulster yr un pryd.

Mae’r llywodraeth newydd wedi cael addewid o bron i £2 biliwn o arian ychwanegol at wasanaeth iechyd, system addysg, datblygiadau cyfalaf a heddlu Gogledd Iwerddon.

Os bydd Sinn Fein a’r DUP yn methu â chyrraedd cytundeb, fodd bynnag, mae’r ddwy lywodraeth wedi rhybuddio y byddai etholiad newydd i’r cynulliad.

Daw’r bygythiad yma ar ôl i’r ddwy blaid golli llawer o gefnogaeth yn yr etholiad cyffredinol y mis diwethaf.

Deddf iaith

Un o amodau allweddol Sinn Fein ar gyfer adfer y drefn o rannu grym â’r DUP yn y cynulliad oedd deddf iaith Wyddeleg, datblygiad a oedd yn cael ei wrthwynebu gan unoliaethwyr.

Ateb llywodraethau Prydain ac Iwerddon i’w pryderon yw “comisiynydd iaith Brydeinig Ulster sy’n ymdrin ag iaith Sgoteg Ulster a diwylliant a threftadaeth cysylltiedig” yn ogystal â chomisiynydd iaith i’r Wyddeleg.

Mae Arlene Foster, arweinydd y DUP a chyn-brif weinidog Gogledd Iwerddon, wedi disgrifio’r cytundeb newydd fel un ‘teg a chytbwys’, ac mae arweinydd Sinn Fein, Mary Lou McDonald wedi croesawu’r cyfle i adfer trefn o rannu grym yn Stormont.

Am y tro cyntaf yn hanes Gogledd Iwerddon, methodd pleidiau unoliaethol ag ennill mwyafrif o seddau yn y dalaith yn yr etholiad cyffredinol y mis diwethaf.