Wrth lansio’i ymgyrch i gael arwain y Blaid Lafur, mae Clive Lewis wedi dweud y dylai Llywodraeth Lafur ystyried cynnig refferendwm ar ddyfodol y Frenhiniaeth.

Yn ôl AS De Norwich, mae’r ffrwgwd diweddar ynghylch rôl Harry a Megan yn dangos bod angen ailystyried rhan y teulu brenhinol ym mywyd cyhoeddus gwledydd Prydain.

Ac mae trafferthion y Tywysog Andrew, oherwydd ei gysylltiadau gyda’r pidoffeil Jeffrey Epstein, wedi codi cwestiynau am y teulu brenhinol hefyd.

Meddai Clive Lewis: “Pam ddim cynnal refferendwm yn y wlad hon ar ddyfodol y teulu brenhinol?

“Rydym ni yn wlad ddemocrataidd. Byddai yn well gen i ein bod yn ddinasyddion yn hytrach na’n bod yn ddarostyngedig yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Gadewch i ni drafod sut beth yw gwladwriaeth fodern a beth fyddai rôl y teulu brenhinol ynddi.”

O ran cyfeiriad y Blaid Lafur, dywedodd Clive Lewis bod angen iddi fod yn radical a chwilio am gyfleoedd i gydweithio, yn hytrach na chadw’r grym yn ganolog.