Mae adroddiadau heddiw (Dydd Gwener, 10 Ionawr) bod Duges Sussex wedi dychwelyd i Vancouver yng Nghanada.

Daw hyn ddyddiau’n unig ar ôl iddi hi a Dug Sussex gyhoeddi eu bod yn cymryd cam yn ôl o’u dyletswyddau brenhinol.

Fe gyhoeddodd y cwpl yn annisgwyl ddydd Mercher (Ionawr 8) eu bod eisiau bywyd mwy annibynnol a’u bod yn bwriadu rhannu eu hamser rhwng Gogledd America a’r Deyrnas Unedig.

Yn y cyfamser, mae’r Frenhines, y Tywysog Charles a Dug Caergrawnt wedi gofyn i’w swyddogion i ddod o hyd i drefniant ynglŷn â rôl Dug a Duges Sussex o fewn y teulu brenhinol mor fuan â phosib.

Roedd Meghan Markle a’r Tywysog Harry wedi treulio chwe wythnos yng Nghanada dros gyfnod y Nadolig gyda’u mab Archie, sy’n wyth mis oed.