Fe allai protestwyr sy’n aros tu allan i Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain aros yno am fisoedd, er gwaetha apel gan yr eglwys a busnesau lleol sy’n dweud eu bod yn dioddef o ganlyniad.

Mae’r Eglwys Gadeiriol yn colli miloedd o bunnoedd bob dydd ar ôl cael eu gorfodi i gau oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch wrth i’r brotest barhau tu allan i’r eglwys.

Mae’n rhan o brotest fyd-eang yn erbyn trachwant corfforaethol honedig a thoriadau gan lywodraethau oherwydd y sefyllfa economaidd.

Mae ail safle wedi ei sefydlu ar Sgwar Finsbury yn Islington er mwyn lleddfu nifer y bobol sydd yno, ond dywed protestwyr y byddan nhw’n parhau i aros tu allan i’r Eglwys Gadeiriol.