Fe fydd staff cwmni Gregg’s yn derbyn £300 yr un fel rhan o becyn gwerth £7m sydd wedi’i gyhoeddi yn sgil llwyddiant rholiau selsig figan.

Dywed y cwmni iddyn nhw gael “blwyddyn ragorol” yn sgil y cynnyrch poblogaidd newydd ac mae disgwyl iddyn nhw wneud mwy o elw na’r rhagolygon, hyd yn oed ar ôl rhoi’r cyflog ychwanegol i’w staff.

Bydd canlyniadau ariannol y cwmni’n cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Fe fydd 19,000 o weithwyr a gafodd eu penodi cyn Mawrth 31 eleni yn derbyn £300 yr un, tra bydd 6,000 aelod o staff yn derbyn £75 am bob chwarter maen nhw wedi bod yn gweithio i’r cwmni.

Byddan nhw’n derbyn yr arian ychwanegol ddiwedd y mis hwn.

Mae’r cwmni, sydd â 2,050 o siopau yng ngwledydd Prydain erbyn hyn, bellach yn gwerthu cynnyrch figan arall yn sgil llwyddiant y rholiau selsig.

Mae disgwyl i 100 o siopau newydd gael eu hagor eleni ar ôl i werthiant dyfu 13.5%, o’i gymharu â 7.2% y llynedd.

Ond dydy hi ddim yn glir eto pa effaith fydd Brexit yn ei gael ar y cwmni.