Mae lle i gredu bod Nigel Farage yn barod i dalu £100,000 i gynnal parti yn Llundain ar Ionawr 31 i ddathlu Brexit.

Mae trefniadau ar y gweill ar gyfer y dathliad yn Parliament Square, lle mae disgwyl tân gwyllt, cerddoriaeth fyw a digrifwyr i ddathlu ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae Ionawr 31 yn eiliad i ddathlu, pan fo’r sefydliad wedi’i drechu gan y bobol,” meddai yn ôl y Sunday Telegraph.

Mae’n dweud y bydd ambell araith fer “na fydd yn rhy wleidyddol”, ond y byddai’r dathliad ar y cyfan yn “hwyliog ac yn optimistaidd”.

Mae disgwyl iddo wneud cais i Gynulliad Llundain i gynnal y digwyddiad.

Mae disgwyl i hyd at 10,000 o bobol dalu i fynychu’r digwyddiad.