Fe fydd tri chwmni yn gorfod talu £10.5m i gronfa rheoleiddiwr y diwydiant ynni yn sgil colli cyflenwadau trydan ym mis Awst pan gafodd mwy na miliwn o gwsmeriaid eu heffeithio, meddai Ofgem.

Roedd ymchwiliad Ofgem i’r digwyddiad ar Awst 9 wedi darganfod bod colli ynni mewn dwy orsaf bŵer mawr Hornsea One Ltd, ac un llai, Little Barford, wedi arwain at filiwn o gwsmeriaid yn colli eu cyflenwad trydan. Roedd hefyd wedi achosi trafferthion i deithwyr ar drenau ac ar y ffyrdd.

Mae Hornsea One Ltd, a Little Barford, wedi cytuno i wneud taliad gwirfoddol i gronfa Ofgem sy’n digolledu cwsmeriaid. Mae UK Power Networks hefyd wedi cytuno i dalu £1.5m i’r gronfa ar ôl ailgysylltu cyflenwad cwsmeriaid heb gais gan y Grid Cenedlaethol.