Mae disgwyl i banel benderfynu os yw feganiaeth yn “gred” sy’n cael ei amddiffyn gan y gyfraith yn ystod gwrandawiad cyfreithiol yn Norwich. ​ ​
Mae Jordi Casamitjana yn dweud iddo gael ei ddiswyddo o’i rol yn y Gynghrair yn Erbyn Campau Creulon pan gododd pryderon am eu cronfa pensiwn.
Roedden nhw’n buddsoddi’r gronfa mewn cwmniau sy’n cynnal profion ar anifeiliaid, meddai, ac mae’n honni iddo golli ei swydd oherwydd ei gred mewn feganiaeth moesegol.​
Mae cyfreithiwr y fegan yn dweud bod y fath gred yn gyfwerth a chred athronyddol neu grefyddol, a byddai hynny’n golygu ei bod yn cael ei hamddiffyn gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Amddiffyn rhag rhagfarn
“Cred athronyddol yw feganiaeth moesegol, ac mae cyfran sylweddol o’r Deyrnas Unedig a’r byd yn credu ynddi,” meddai’r cyfreithiwr, Peter Daly.
“Os bydd yr achos yma yn llwyddiannus mi fydd yn sefydlu’r egwyddor bod hawl gan feganiaid moesegol gael eu hamddiffyn rhag rhagfarn.”
Beth yw fegan moesegol?
Mae feganiaid moesegol, yn debyg i feganiaid arferol, yn ymwrthod rhag bwyta unrhyw gynnyrch sydd yn dod o anifeiliaid.
Yn wahanol i feganiaid arferol maen nhw’n ceisio osgoi gormesu anifeiliaid mewn unrhyw ffordd, ac felly’n gwrthod gwisgo dillad gwlan a lledr ac ati.​