Mae deiseb sy’n galw am ddileu Tŷ’r Arglwyddi wedi denu dros 100,000 o lofnodion erbyn hyn.

Fe ddaw yn sgil y sïon fod aelodau seneddol a gollodd eu seddi yn yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12 ar fin cael lle yn haen uchaf San Steffan, gan gynnwys Zac Goldsmith a Jo Swinson.

Ac mae disgwyl i un arall, Nicky Morgan, gael anrhydedd am oes er iddi gamu o’r neilltu cyn yr etholiad cyffredinol, sy’n golygu y bydd hi’n cael parhau’n weinidog yn Llywodraeth Prydain.

Yn ôl y ddeiseb, mae 37% o’r Arglwyddi’n gyn-wleidyddion, staff gwleidyddol neu’n ymgyrchwyr.

“Mae’r Llywodraeth wedi rhoi’r grym i’r bobol hyn benderfynu ar ein deddfau am oes – er eu bod nhw wedi colli hyder yr etholwyr,” meddai’r ddeiseb.

“Ac maen nhw’n cael hawlio £305 y dydd heb dalu treth am y fraint.

“Am yn rhy hir, mae Tŷ’r Arglwyddi wedi cael ei ddefnyddio fel polisi yswiriant abswrd ar gyfer cyn-wleidyddion.

“Wedi colli eich sedd? Peidiwch â phoeni, dyma un arall.

“Pas yw hwn i gael pleidleisio ar ddeddfau a chael teitl crand hefyd.

“Digon yw digon. Mae’n rhaid i’r clwb aelodau preifat hwn fynd.”