Mae Boris Johnson yn addo degawd o “lewyrch a chyfleoedd” yn sgil Brexit, gan ddweud bod yr ansicrwydd ar ben.Dywed prif weinidog Prydain yn ei neges Flwyddyn Newydd y gall Prydain ddechrau edrych ar faterion eraill wrth baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Ionawr 31.

Mae’n dweud bod “rhaniadau, chwerwder ac ansicrwydd wedi ein dal ni’n ôl am yn rhy hir”, a bod gwledydd Prydain ar drothwy “pennod newydd”.

Mae pôl newydd gan YouGov yn awgrymu fod gan bobol yng ngwledydd Prydain fwy o hyder yn y prif weinidog erbyn hyn, gydag 20% yn dweud eu bod nhw’n disgwyl i’w sefyllfa ariannol wella yn ystod y flwyddyn i ddod, o’i gymharu â 13% y llynedd.

Ond mae 27% yn disgwyl i’r sefyllfa waethygu, i lawr o 40% yr un adeg y llynedd.

Mae 24% o’r farn fod yr economi’n gryf o gymharu â 18% y llynedd, gyda 34% yn dweud bod y sefyllfa’n wael, i lawr o 41%.

‘Prif Weinidog i bawb’

Mae Boris Johnson, sydd ar ei wyliau ar ynys Mustique, yn dweud ei fod yn gobeithio bod yn “brif weinidog i bawb”.

“Rwy am eich sicrhau chi y bydda i’n brif weinidog i bawb, nid dim ond y rhai oedd wedi pleidleisio drosof fi,” meddai.

“Rwy’n gwybod nad ydych chi’n caru’r wlad hon ddim llai dim ond am eich bod chi wedi pleidleisio dros blaid arall neu eisiau aros [yn yr Undeb Ewropeaidd].

“Yn fwy na hynny, rwy eisiau gweithio gyda chi, fel ffrindiau a phobol gyfartal, wrth i ni adeiladu’r dyfodol mae’r Deyrnas Unedig yn ei haeddu.

“Felly gadewch i ni gydweithio i wneud y 2020au yn ddegawd o lewyrch a chyfleoedd.”

Ymhlith ei flaenoriaethau eraill, meddai, mae sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn gryf.