Mae merch 10 oed a gafodd ei tharo gan ambiwlans a oedd yn ateb galwad argyfwng, wedi marw.

Fe gafodd y plentyn ei chludo i’r ysbyty wedi’r ddamwain yn Bulwell, Nottingham ddydd Sul (Rhagfyr 22). Fe fu yno mewn cyflwr difrifol iawn.

Ond heddiw (Rhagfyr 31) fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Swydd Nottingham fod y ferch wedi marw.

“Roedd yr ambiwlans yn ymateb i alwad 999 ar adeg y ddamwain yn Bulwell am 6.30yh ddydd Sul, Rhagfyr 22,” meddai datganiad yr heddlu.

“Merch ar droed oedd y plentyn deg oed a gafodd ei tharo.”