Mae Rebecca Long-Bailey wedi cadarnhau ei bod yn ystyried ymgeisio i olynu Jeremy Corbyn fel arweinydd y Blaid Lafur.

Dywedodd ysgrifennydd busnes yr wrthblaid bod safiad y blaid ar Brexit yn un o’r rhesymau dros chwalfa Llafur yn yr etholiad cyffredinol yn gynharach yn y mis.

Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Guardian dywedodd bod polisi Llafur ar Brexit wedi “bodloni rhy ychydig” ond mae’n mynnu bod agenda’r blaid yn boblogaidd.

“Wnaethon ni ddim colli oherwydd ein hymrwymiad i sgrapio credyd cynhwysol, buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a chael gwared a ffioedd dysgu,” meddai Aelod Seneddol Salford ac Eccles.

Mynnodd y gallai Llafur “ennill eto” ond bod yn rhaid i’r blaid “ddod ynghyd” yn gyntaf.

Mae Rebecca Long-Bailey hefyd wedi dweud ei bod yn cefnogi Angela Rayner fel rôl y dirprwy arweinydd.

“Roedd miliynau wedi deffro i hunllef ar Ragfyr 13. Ein dyletswydd ni yw gwneud yn siŵr nad ydy hynny’n digwydd eto.”

Ychwanegodd bod angen “uno ein cymunedau” ac mae hi hefyd wedi awgrymu bod angen rhoi rhagor o reolaeth i aelodau’r blaid.

Mae Rebecca Long-Bailey yn cael ei hystyried yn un o’r ceffylau blaen yn y gystadleuaeth i olynu Jeremy Corbyn, er nad yw hi wedi cyhoeddi’n ffurfiol ei bod am ymgeisio am y rôl. Mae disgwyl i Syr Keir Starmer a Lisa Nandy fod ymhlith yr ymgeiswyr eraill.

Emily Thornberry a Clive Lewis yw’r unig rai sydd wedi cyhoeddi’n swyddogol eu bod yn ymgeisio am y rôl.

Mae dyfalu hefyd bod cadeirydd y blaid Ian Lavery hefyd yn ystyried ymgeisio.