Wrth iddo baratoi i adael ei swydd, mae Llywodraethwr Banc Lloegr wedi rhybuddio cwmnïau y gallai eu hasedau fod yn “ddiwerth” os nad ydyn nhw’n wynebu’r argyfwng newid hinsawdd.

Dywedodd Mark Carney, a fydd yn gadael ei swydd ym mis Mawrth, bod y sector ariannol wedi dechrau torri nôl ar fuddsoddi mewn tanwydd ffosil ond nad ydyn nhw’n gwneud hynny “yn ddigon cyflym.”

Daeth ei sylwadau mewn cyfweliad gyda rhaglen Today ar BBC Radio 4 gyda’r golygydd gwadd, yr ymgyrchydd amgylcheddol Greta Thunberg. Fe fydd y rhaglen yn cael ei darlledu heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 30).

Dywedodd Mark Carney: “Cwestiwn i bob cwmni, pob sefydliad ariannol, pob rheolwr asedau, cronfa bensiwn neu gwmni yswiriant: beth yw eich cynllun?”

Fe ddisgrifiodd newid hinsawdd fel “trasiedi ar y gorwel” gan rybuddio bod “mwy o ddigwyddiadau yn ymwneud a thywydd eithafol” yn debygol ond “erbyn i’r digwyddiadau eithafol fod yn amlwg fe fydd yn rhy hwyr i wneud unrhyw beth am y peth.”

“Ry’n ni’n edrych at ein harweinwyr gwleidyddol i fynd i’r afael a phroblemau’r dyfodol heddiw,” meddai.

Fe fydd Mark Carney yn dechrau ar ei rôl newydd fel cennad arbennig y Cenhedloedd Unedig dros newid hinsawdd ac arian yn y flwyddyn newydd.