Mae graffiti wedi ymddangos ar synagog a siopau Iddewig yn Llundain wrth i’r Iddewon ddathlu Gŵyl y Cysegriad (hanukkah).

Mae nifer o adeiladau yn ardaloedd Hampstead a Belsize Park wedi cael eu targedu, gyda’r rhifau ‘9 11’ yn cael eu paentio, sy’n cyfeirio at theori mai’r Iddewon oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad brawychol ar y dyddiad hwnnw yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad ar ôl derbyn nifer o gwynion, ond dydyn nhw ddim wedi arestio unrhyw un hyd yn hyn.

Mae cynghorwyr ac aelodau seneddol hefyd yn beirniadu’r ymosodiadau.