Mae swyddogion carchar wedi gorfod mynd i’r ysbyty ar ôl helynt treisgar mewn sefydliad troseddwyr ifanc.

Cafodd tua 14 o staff y sefydliad yn Feltham yng ngorllewin Llundain driniaeth ar ôl yr helynt a ddigwyddodd tua amser cinio ddoe.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad oedd anafiadau difrifol a bod y sefyllfa o dan reolaeth o fewn 25 munud.

Meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai:

“Cafodd digwyddiad yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc Feltham ei ddatrys yn gyflym gan ein swyddogion carchar dewr a chydwybodol.

“Wnawn ni byth ddioddef trais yn erbyn ein staff a byddwn yn cosbi’r rheini sy’n gyfrifol.”

Mae tua 100 o fechgyn a dynion ifanc rhwng 15 a 21 oed yn cael eu cadw yn Feltham.