Daeth cadarnhad fod chwaer y canwr George Michael wedi marw ar Ddydd Nadolig – dair blynedd union ers marwolaeth ei brawd.

Cafwyd hyd i gorff Melanie Panayiotou, 55, yn ei chartref yn Hampstead yn Llundain.

Bu farw George Michael yn 53 oed ar Ddydd Nadolig 2016.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 7.35 nos Fercher, ond dydy’r heddlu ddim yn trin ei marwolaeth fel un amheus.

Roedd y teulu wedi bod yn diolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth yn ddiweddar.