“Perswadio ysgafn” yw’r gyfrinach i ennill yr hawl i gynnal ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban, yn ôl un o aelodau seneddol yr SNP.

Yn ôl Pete Wishart, a enillodd fwyafrif o fwy na 7,000 yn ei etholaeth yn Perth a Gogledd Sir Perth yn yr etholiad cyffredinol, mae rhagor o waith i’w wneud er mwyn sicrhau bod y blaid yn cadw’r gefnogaeth gawson nhw wrth ennill 47 o seddi yn San Steffan.

Mewn blog ar ei wefan, mae’n rhybuddio yn erbyn “refferendwm anghyfreithlon” a “diddymu’r Undeb” rhag i’r blaid golli cefnogaeth.

Daw ei sylwadau ar ôl i Christopher McAleny, arweinydd Cyngor Inverclyde, ac Angus MacNeil, aelod seneddol yr SNP, gyflwyno cynnig yng nghynhadledd y blaid ym mis Hydref yn nodi y byddai buddugoliaeth i’r SNP yn San Steffan neu yn Holyrood yn dystiolaeth fod gan y blaid fandad i drafod gadael y Deyrnas Unedig.

Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, eisoes yn galw am hawl gan San Steffan i gynnal ail refferendwm annibyniaeth, ond mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn gwrthwynebu hynny.

‘Perswadio, darbwyllo a deall’

“Fe fydd yr holl sôn am refferenda anghyfreithlon, datganiadau o annibyniaeth, diddymu undebau a cheisio twyllo ein ffordd tuag at annibyniaeth yn anfon yr holl recriwtiaid uchelgeisiol yn ôl i freichiau’r achos tros yr undeb,” meddai Pete Wishart.

“Mae’r Torïaid yn gobeithio am y gorau y byddwn ni’n ei cholli hi drwy fod yn ddiamynedd ac yn ynysu’r gefnogaeth newydd yma sy’n dod aton ni.

“Yn hytrach, dylen ni bellach ganolbwyntio ar berswadio ysgafn, darbwyllo a deall.”

Mae’n dadlau bod dyddiau’r Alban yn y Deyrnas Unedig yn dirwyn i ben.

“Mae gyda ni gyfle nawr i’w hennill hi a’i hennill hi’n dda a mynd y tu hwnt i bob amheuaeth.”

Bygwth dwyn achos

Yn y cyfamser, mae mudiad Forward As One wedi sefydlu cronfa i fynd â Llywodraeth Prydain i’r llys pe bai cais Nicola Sturgeon am ganiatâd i gynnal ail refferendwm annibyniaeth yn cael ei wrthod.

Mae ymgyrchwyr yn gobeithio codi hyd at £40,000 ac mae ganddyn nhw £9,000 hyd yn hyn.