Mae Cymdeithas y Peldroedwyr Proffesiynol (PFA) wedi galw ar lywodraeth San Steffan i gynnal ymchwiliad yn dilyn honiadau o hiliaeth yn y gamp.

Roedd honiadau bod Antonio Rudiger, un o chwaraewyr pêl-droed Chelsea, wedi derbyn sylwadau hiliol yn ystod y gêm yn erbyn Tottenham ddydd Sul (Rhagfyr 22).

Dywedodd Antonio Rudiger bod rhai wedi dynwared synau mwnci yn ystod ail hanner y gêm yn Stadiwm Tottenham Hotspur yn fuan ar ôl i Son Heung-min gael ei anfon o’r cae am gicio ato.

Yn ystod y gêm fe fu tri chyhoeddiad – y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn ystod gem uwch-gynghrair Lloegr, yn dweud bod “ymddygiad hiliol ymhlith y dorf yn amharu ar y gêm.”

Mae Iffy Onuora, hyfforddwr cydraddoldeb gyda’r PFA wedi annog y llywodraeth i arwain wrth fynd i’r afael a hiliaeth o fewn pêl-droed ac mewn cymdeithas.

Mae’r PFA yn galw am ymchwiliad i hiliaeth a’r cynnydd mewn troseddau casineb o fewn pêl-droed a hefyd yn galw ar yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i fynd i’r afael a’r mater ar frys.

Mae Tottenham wedi dweud y bydd yn cynnal ymchwiliad i’r mater ac yn cymryd camau yn erbyn y rhai oedd yn gyfrifol.

Mae Chelsea wedi croesawu ymateb Tottenham.