Mae disgwyl i gyflwynydd y gyfres Love Island, Caroline Flack, fynd gerbron llys heddiw (Dydd Llun, Rhagfyr 23) ar gyhuddiad o ymosod.

Cafodd Caroline Flack ei harestio a’i chyhuddo o ymosod ar Ragfyr 13 yn dilyn digwyddiad domestig y credir oedd yn ymwneud a’i chariad Lewis Burton.

Mae disgwyl iddi fynd gerbron Llys Ynadon Highbury Corner, Llundain heddiw.

Mae’r cyflwynydd 40 oed wedi camu o’i swydd yn cyflwyno cyfres newydd o’r sioe ar ITV2 dros gyfnod y gaeaf.

Mewn neges emosiynol ar ei chyfrif Instagram nos Sul (Rhagfyr 22) dywedodd Caroline Flack mai “dyma’r cyfnod gwaethaf yn fy mywyd” ac nad oedd yn “gwybod lle i fynd. Lle i edrych. Pwy i ymddiried ynddyn nhw.”