Fe fydd Priti Patel yn cyfarfod â theulu Harry Dunn wrth i’r Swyddfa Gartref ystyried estraddodi Anne Sacoolas sy’n wynebu cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Bydd Ysgrifennydd Cartref San Steffan yn cyfarfod â’i rieni Charlotte Charles a Tim Dunn ddiwrnodau’n unig ar ôl i Wasanaeth Erlyn y Goron ddweud eu bod nhw wedi gorchymyn Heddlu Swydd Northampton i gyhuddo gwraig y diplomydd o’r Unol Daleithiau.

Mae’r broses estraddodi eisoes wedi dechrau, ac fe fydd y Swyddfa Gartref yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen gyda’r trefniadau i’w chludo i wledydd Prydain.

Cefndir

Fe fu Anne Sacoolas a’i theulu’n byw ger safle’r awyrlu yn Croughton yn Swydd Northampton lle digwyddodd y gwrthdrawiad.

Tarodd hi feic modur Harry Dunn, 19, gyda’i char ar Awst 27.

Hawliodd hi statws diplomyddol wedi’r gwrthdrawiad er mwyn osgoi cyhuddiadau.

Ond ar ôl iddi adael am yr Unol Daleithiau, rhoddodd y Swyddfa Gartref wybod nad oedd ei statws diplomyddol yn ddilys ac y dylai ddychwelyd i gael ei holi.