Ar ddiwrnod olaf eu cynhadledd heddiw yn Inverness bydd plaid yr SNP yn datgelu manylion am eu strategaeth i ennill annibyniaeth i’r Alban.

Bydd arweinydd yr SNP yn San Steffan, Angus Robertson, yn cyflwyno’r camau y mae’r blaid yn credu sydd angen eu dilyn er mwyn ennill annibyniaeth i’r wlad.

Yn rhesymegol, dyma’r cam nesaf, meddai, gan alluogi’r Alban i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan annibyniaeth.

Roedd arweinydd yr SNP, Alex Salmond, wedi dweud wrth y gynhadledd ddoe y byddai annibyniaeth yn galluogi’r Alban i flodeuo mewn ffordd nas gwelwyd o’r blaen.

“Yr unig gyfyngiadau yw ein dychymyg a’n huchelgais,” meddai. “Felly, rhowch yr arfau i’r Alban, rhowch y cyfrifoldeb i bobl yr Alban, a gwelwch ein cenedl yn blodeuo fel nas gwelwyd o’r blaen.”