Bydd y Llywodraeth yn gofyn i Aelodau Seneddol bleidleisio ar gytundeb Brexit Boris Johnson ar ddiwedd yr wythnos wrth i’r broses ailddechrau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd y Bil Ymadael yn mynd gerbron Tŷ’r Cyffredin ddydd Gwener ac fe allai gael darlleniad cyntaf ac ail ddarlleniad ar yr un diwrnod os yw’r Llefarydd yn cytuno gyda’r amserlen.

Dywedodd Boris Johnson drwy gydol yr ymgyrch etholiadol y byddai’n ail-ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) cyn y Nadolig pe bai’n cael ei ail-ethol.

Dywed llefarydd swyddogol ar ran y Prif Weinidog: “Rydym yn bwriadu dechrau’r broses cyn y Nadolig, ac fe fyddwn yn gwneud hynny yn y ffordd gyfansoddiadol briodol gyda chaniatâd y Llefarydd.”

Fe fyddai’r Llywodraeth yn ceisio sicrhau bod y Bil yn mynd drwy’r Senedd ym mis Ionawr, ac yn cael sêl-bendith Tŷ’r Arglwyddi yn fuan wedyn er mwyn caniatáu i wledydd Prydain adael yr UE ar Ionawr 31.

Serch hynny, ni fydd cymeradwyo’r ddeddfwriaeth yn golygu fod y saga Brexit ar ben. Fe fydd y Deyrnas Unedig yn parhau yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd hyd at ddiwedd 2020.

Yn y cyfnod yma fe fydd Llundain a Brwsel yn ceisio cytuno ar gytundeb masnach a phenderfynu ar ddyfodol y berthynas ar faterion fel diogelwch.

Roedd disgwyl i Boris Johnson groesawu dros 100 o Aelodau Seneddol newydd i San Steffan heddiw ac mae disgwyl iddo wneud man newidiadau i’w Gabinet fel penodi Ysgrifennydd Cymru newydd.