Mae disgwyl i gynrychiolwyr y prif bleidiau ddechrau trafodaethau heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 16) i geisio ail-ffurffio Senedd Gogledd Iwerddon.

Yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol ddydd Iau (Rhagfyr 12) mae prif bleidiau Gogledd Iwerddon wedi datgan eu bod yn awyddus i gynnal trafodaethau.

Mae’n ymddangos y bydd Julian Smith yn parhau fel Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon ac roedd wedi siarad gydag arweinwyr y pum plaid wleidyddol ddydd Sul (Rhagfyr 15).

Mae bron i dair blynedd ers i wleidyddion ymgynnull yn Stormont yn dilyn ffrae rhwng y DUP a Sinn Fein ar faterion megis yr iaith Wyddeleg a phriodasau un-rhyw.

Ac mae’n ymddangos bod anniddigrwydd etholwyr ynglŷn a’r mater wedi cael effaith andwyol ar y ddwy brif blaid ac wedi’i adlewyrchu mewn etholiadau diweddar.

Cafodd y DUP ergyd ar ôl i ddirprwy arweinydd y blaid Neil Dodds golli ei sedd yng ngogledd Belffast i John Finucane o Sinn Fein.

Yn ogystal, fe gollodd Sinn Fein sedd yn Foyle i’r SDLP o fwyafrif sylweddol. Roedd yr SDLP hefyd wedi cymryd sedd gan y DUP yn Ne Belffast.

Mae’n debyg fod y DUP a Sinn Fein yn awyddus i  gael eu gweld yn eistedd o gwmpas y bwrdd trafod unwaith eto er mwyn adfer hyder gyda’r etholwyr cyn unrhyw etholiadau eraill.