Fe fydd Boris Johnson yn annerch dros 100 o Aelodau Seneddol newydd i Dy’r Cyffredin heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 16) wrth iddyn nhw baratoi i bleidleisio ar ei gytundeb Brexit.

Mae’n dilyn buddugoliaeth y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol wythnos ddiwethaf.

Fe fydd y Prif Weinidog yn defnyddio ei fwyafrif o 80 i sicrhau bod y Bil Ymadael yn cael ei gymeradwyo fel bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol erbyn diwedd mis Ionawr.

Mae Boris Johnson wedi rhoi addewid i ddod a’r Bil gerbron y Senedd cyn y Nadolig ond nid yw’n glir ar hyn o bryd a fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar y mater.

Roedd disgwyl i Boris Johnson baratoi ar gyfer gwneud man newidiadau i’w Gabinet heddiw cyn cyflwyno newidiadau mwy radical ym mis Chwefror. Ymhlith y newidiadau hynny fydd penodi Ysgrifennydd Cymru newydd.

Cyn yr araith breifat, dywedodd ffynhonnell ar ran Rhif 10: “Fe fydd yr etholiad yma a chenhedlaeth newydd o Aelodau Seneddol o ganlyniad i drefi Llafur yn troi’n las, yn helpu i newid ein gwleidyddiaeth er gwell.

“Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn bod gynnon ni gyfrifoldeb i sicrhau gwell dyfodol i’n gwlad a bod yn rhaid i ni adfer ymddiriedaeth y cyhoedd drwy gyflawni Brexit.”

Fe fydd yr Aelodau Seneddol newydd yn tyngu llw ddydd Mawrth a bydd Araith y Frenhines yn cael ei chynnal ddydd Iau. Mae disgwyl i Lafur hefyd ddechrau’r broses o ddewis arweinydd newydd i olynu Jeremy Corbyn.