Mae llanc 14 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drywanu llanc 17 oed i farwolaeth yn ardal Bryste.

Cafwyd hyd i’r bachgen ag anafiadau yn Bedminster brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 14).

Cafodd ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae ymchwiliad ar y gweill.