All Boris Johnson ddim “gorfodi” yr Alban i gytuno â’i ffordd o weld y byd, yn ôl Nicola Sturgeon.

Daw sylwadau prif weinidog yr Alban yn dilyn sgwrs ffôn â phrif weinidog Prydain, lle ategodd e ei ffydd yn undod y Deyrnas Unedig.

Mae’n dweud na fydd ail refferendwm annibyniaeth yn cael ei gynnal am o leiaf bum mlynedd arall, er bod Nicola Sturgeon am geisio caniatâd i’w gynnal ddiwedd y flwyddyn nesaf.

Mae gan yr SNP 48 o aelodau seneddol allan o 59 posib yn dilyn yr etholiad cyffredinol nos Iau (Rhagfyr 12), a llwyddodd y blaid i drechu Jo Swinson, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nwyrain Sir Dunbarton.

Ond yn ôl Downing Street, mae Boris Johnson wedi “egluro ei fod yn parhau’n wrthwynebus i ail refferendwm annibyniaeth”.

‘Mae’r Alban eisiau dyfodol gwahanol’

Mae Nicola Sturgeon yn Dundee heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 14) gydag aelodau seneddol ei phlaid.

Ac mae’n dweud na all y Ceidwadwyr barhau i wrthwynebu pleidlais o’r newydd yn dilyn perfformiad siomedig y blaid yn yr Alban.

“Dw i ddim yn siŵr faint o gyfle gafodd e i ddal i fyny â chanlyniadau’r Alban,” meddai.

“Wnes i ddangos iddo fe – yn gwrtais, wrth gwrs, ar ôl ei longyfarch e – fod Torïaid yr Alban, ar ôl brwydro’r etholiad ar fater unigol gwrthwynebu refferendwm annibynaeth, wedi colli – wedi colli cyfran o’r bleidlais a cholli mwy na hanner eu seddi.

“Roedd yr etholiad yn drobwynt ddydd Iau ac mae’n amlwg iawn fod yr Alban eisiau dyfodol gwahanol i’r un gafodd ei ddewis gan y rhan fwyaf o weddill y Deyrnas Unedig.

“Dangosodd yr Alban ei gwrthwynebiad i Boris Johnson a’r Torïaid, ac mi ddywedodd ‘Na’ eto wrth Brexit, ac mi wnaeth yn amlwg ein bod ni eisiau i ddyfodol yr Alban, beth bynnag yw hwnnw, gael ei benderfynu gan y bobol sy’n byw yma.

“Allwch chi ddim gorfodi cenedl i dderbyn eich safbwynt o’r byd pan wnaeth yn glir nad yw’n gweld y byd yn y ffordd yna.”

‘Undeb trwy ganiatâd’

Dim ond gyda chaniatâd y gall y Deyrnas Unedig barhau, meddai wedyn.

“Mae’r syniad yma y gall y Torïaid jyst ddweud ‘Na’ a rhyw fath o garcharu’r Alban mewn unded yn erbyn ei hewyllys, dw i ddim yn meddwl fydd e’n dal dŵr.

“Dim ond gyda chaniatâd y gall yr undeb barhau os yw pobol yr Alban am iddi barhau.

“A rhaid i chi fod yn barod i adael i bobol yr Alban ddewis os ydych chi am ddadlau y dylai fod yn rhan o’r undeb.”