Mae dwy ddynes wedi cael eu hanafu’n ddifrifol ar ôl cael eu trywanu yn ardal Manceinion fore heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 14).Cafodd yr heddlu a sawl ambiwlans eu galw i Hindley am oddeutu 10.30yb.

Cafodd y ddwy eu cludo i’r ysbyty am driniaeth.

Dydy’r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel ymosodiad brawychol.