Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i gorff yn Sir Caer.

Cafwyd hyd i’r corff ym mhentref Ashley am 7.52 fore ddoe (dydd Gwener, Rhagfyr 13).

Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod eto, a does gan yr heddlu ddim esboniad ynghylch y farwolaeth.

Mae’r dyn sydd wedi’i arestio’n dod o Knutsford ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.