Mae Rod Stewart dan y lach ar ôl trydar neges yn llongyfarch Boris Johnson ar ennill yr etholiad cyffredinol nos Iau (Rhagfyr 12).

Mae’r canwr yn cefnogi tîm pêl-droed Glasgow Celtic, ac wedi corddi’r cefnogwyr sy’n Albanwyr cenedlaetholgar ar y cyfan.

Daeth ei neges ar Twitter ar ôl iddo gyrraedd brig y siartiau albwm am y degfed tro, ac fe wnaeth e grybwyll canlyniad yr etholiad yn y neges honno.

“Da iawn Robbie, da iawn Boris, dim drwgdeimlad Pete Townshend!” meddai’r neges.

Ymateb

Ond fe gafodd y neges gryn feirniadaeth gan gefnogwyr Celtic.

“Paid dod nôl” meddai un neges, tra bod un arall yn gofyn iddo “gadw draw o Celtic” ac i “beidio byth â gwisgo slippers Celtic eto”.

Aeth rhai mor bell ag awgrymu y dylid ei “wahardd am oes” o Celtic Park, lle mae’r tîm pêl-droed yn chwarae, a hyd yn oed o’r Alban.