Mae Boris Johnson yn dweud na fydd ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban yn cael ei gynnal am o leiaf bum mlynedd arall.

Daw datganiad prif weinidog Prydain wrth i Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, fynnu y bydd hi’n ceisio caniatâd i’w gynnal cyn diwedd 2020.

Mae’r SNP yn dadlau bod ganddyn nhw fandad i’w gynnal yn Holyrood ar ôl i’r Alban ethol 48 o’u haelodau i San Steffan.

Mae hi ar daith yn Dundee gyda’r aelodau seneddol newydd heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 14).

Sgwrs ffôn

Ond cyn mynd i amgueddfa V&A gyda’i haelodau seneddol newydd, fe fu Nicola Sturgeon yn trafod mater annibyniaeth gyda Boris Johnson dros y ffôn.

Mae llefarydd ar ran Downing Street yn dweud bod Boris Johnson “wedi ategu ei ymrwymiad di-wyro i gryfhau’r undeb”.

Mae’n debyg iddo ddadlau bod mater Brexit yn golygu ffordd ymlaen i wledydd y Deyrnas Unedig “gyda’i gilydd”, ac fe ddywedodd y byddai’n “cynnig sicrwydd” i fusnesau’r Alban a bywydau pobol yn gyffredinol.

“Fe wnaeth y Prif Weinidog egluro’i fod yn parhau i wrthwynebu ail refferendwm annibyniaeth, gan sefyll gyda’r mwyafrif o bobol yr Alban nad ydyn nhw am ddychwelyd at raniadau ac ansicrwydd,” meddai’r llefarydd.

“Fe ychwanegodd fod canlyniad refferendwm 2014 yn bendant ac y dylid ei barchu.”

‘Galwad adeiladol’

“Roedd hon yn alwad adeiladol lle awgrymodd y prif weinidog y byddai hi’n cyhoeddi papur yr wythnos nesaf ac fe gytunodd y ddau arweinydd i gael trafodaeth fwy manwl yn y dyfodol agos ynghylch y materion a gododd yn sgil canlyniad yr etholiad,” meddai llefarydd ar ran Nicola Sturgeon.

Collodd y Ceidwadwyr mwy na hanner eu seddi yn yr Alban, ac mae ganddyn nhw chwe aelod seneddol yn unig erbyn hyn.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi colli nifer o’u seddi, gan gynnwys eu harweinydd Jo Swinson o’r Alban.

Mae gan Lafur un aelod seneddol yn yr Alban erbyn hyn.