Mae newyddiadurwr amlwg sydd wedi gweithio gyda’r Prif Weinidog, wedi dweud wrth golwg360 fod gan “Boris Johnson gyfle euraidd i ddangos gwir natur ei wleidyddiaeth a’i bersonoliaeth” yn dilyn yr etholiad cyffredinol.

Mae  Boris Johnson a’r blaid Geidwadol wedi ennill 365 o seddi sy’n rhoi mwyafrif clir iddyn nhw yn San Steffan.

Ac mae Guto Harri o’r farn y bydd y mwyafrif yma’n rhoi mwy o ryddid i Boris Johnson wleidydda fel yr oedd o pan yn Faer Llundain rhwng 2008 a 2016.

Yn ei gyfnod yn faer, fe gafodd Boris Johnson enw da am apelio at etholwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ac am ei agwedd agored at fewnfudwyr.

Meddai Guto Harri: “Nawr bod e’ ddim yn gaeth i un garfan yn y blaid, a nawr bod ganddo fe’r mandad personol iawn yma ar lawr gwlad, dw i’n fwy na hanner disgwyl y gwelwn ni fe’n mynd yn ôl i’r math o wleidydd oedd e pan enillodd ddau dymor fel Maer Llundain”.

Cwestiynau i bleidiau Cymru

Mae Guto Harri o’r farn fod gwleidyddiaeth Cymru wedi cael cic go hegar yn yr etholiad cyffredinol.

Ac wrth edrych tuag at etholiadau’r Cynulliad yn 2021, mae yn darogan fod yna her yn wynebu’r holl bleidiau yma yng Nghymru.

“Os yw gafael y Blaid Lafur wedi torri, pwy sydd yn mynd i ennill yr etholaethau yma yn etholiad y Cynulliad?

“Ydi’r Blaid Lafur yng Nghymru yn mynd i godi ei gêm? Ydi Plaid Cymru yn mynd i fanteisio ar y cyfle newydd sydd yna, neu ydi’r Ceidwadwyr yn mynd i ddod o un fuddugoliaeth gyda’r targed o redeg y Cynulliad yn 2021?”

Noson gymysg i Blaid Cymru

Mae Guto Harri o’r farn fod nad oedd yr etholiad yn un “gwael i Blaid Cymru, ond ddim yn etholiad da chwaith”.

Llwyddodd y Blaid i gadw eu pedair sedd, ac fe gynyddodd Ben Lake a Hywel Williams eu mwyafrifoedd yn sylweddol yng Ngheredigion ac Arfon.

Ond methodd y Blaid â chipio seddi megis Ynys Môn, gyda phleidlais y Ceidwadwyr yn cynyddu’n aruthrol yng Ngogledd Cymru.

Meddai Guto Harri: “Os yw’r Ceidwadwyr yn gallu dod o sefyllfa druenus yng Nghymru lle doedd ganddyn nhw ddim un aelod yn 1997, i berfformiad mor gryf â hyn, mae’n dangos fod rhaid i Blaid Cymru fod yn fwy uchelgeisiol a disgybledig a chynnig gweledigaeth fwy clir ag unigryw er mwyn denu pleidleisiau i’w corlan nhw.”

Argyfwng yn yr Alban

Yn dilyn yr etholiad cyffredinol mae Guto Harri o’r farn bod y Deyrnas Unedig yn “neidio mas o un argyfwng cyfansoddiadol i un arall”.

Mae Nicola Sturgeon a’r SNP yn mynnu eu bod am gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban, wedi iddyn nhw ennill 48 o’r 59 o seddi yno.

Yn groes i Boris Johnson, mae’r SNP eisiau i’r Alban aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac am gael y rhyddid i wneud hynny.

Ond mae Boris Johnson yn wfftio’r hawl i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth y wlad.

Meddai Guto Harri:  “Beth sydd gennym nawr yw beth mae’r Saeson yn ei alw’n conflicting mandate lle mae Boris Johnson wedi cael ei ethol ac yn dweud nad yw’n mynd i gynnig refferendwm ar yr Alban.

“Tra mae Nicola Sturgeon, sydd wedi ennill bron pob sedd yn yr Alban, yn dweud i’r llwyr wrthwyneb a’i bod hi am gynnal ail refferendwm.”