Mae Arweinydd Ceidwadwyr yr Alban wedi wfftio’r alwad gan yr SNP i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth y wlad.

Yn ymateb i ganlyniad yr etholiad cyffredin, mae Nicola Sturgeon wedi dweud fod gan y wlad “hawl democrataidd” i gynnal ‘IndyRef2’.

Ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban yn “hawl democrataidd”

Ond mae Jackson Carlaw, Arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, yn mynnu y byddai ail refferendwm yn achosi “mwy o raniadau ac anhrefn”.

Ac mae Jackson Carlaw yn ffyddiog y bydd Boris Johnson yn ymrwymo i “agenda o uno” er mwyn “cryfhau” y Deyrnas Unedig.