Mae’n debygol fod cyfnod Jeremy Corbyn yn arweinydd Llafur yn dirwyn i ben ar ôl noson siomedig i’r blaid yn yr etholiad cyffredinol.

Ar ôl cipio’i sedd ei hun yng Ngogledd Islington am y degfed tro yn olynol, fe ddywedodd na fyddai wrth y llyw ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.

Ond mae’n gwrthod dweud ar hyn o bryd a fydd e’n parhau i arwain y blaid yn y tymor byr.

Mae’n beio Brexit ac ymosodiadau personol arno fe am golledion sylweddol y blaid ledled Prydain, ac mae’n dweud bod angen “cyfnod o fyfyrio” arno fe a’r blaid.

“Rwy eisiau egluro hefyd na fydda i’n arwain y blaid mewn unrhyw ymgyrch etholiadol yn y dyfodol,” meddai o’r llwyfan yn ei etholaeth.

“Bydda i’n trafod â’r blaid er mwyn sicrhau bod yna broses o fyfyrio ar y canlyniad hwn nawr ac ar y polisïau y bydd y blaid yn mynd â nhw yn eu blaenau.

“A bydda i’n arwain y blaid yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn sicrhau bod y drafodaeth yn digwydd a’n bod ni’n symud yn ein blaenau i’r dyfodol.”