Mae Nicola Sturgeon yn cael ei beirniadu ar ôl cael ei ffilmio’n dathlu buddugoliaeth yr SNP dros Jo Swinson.

Roedd hi’n cynnal cyfweliadau pan gafodd canlyniad Dwyrain Sir Dunbarton ei gyhoeddi, wrth i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol golli ei sedd i Amy Callaghan o drwch blewyn.

Enillodd yr SNP 19,672 o bleidleisiau, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill dim ond 19,523.

Wrth i’r canlyniad gael ei gyhoeddi, cododd Nicola Sturgeon ei dwrn i’r awyr ac mi wnaeth hi gymeradwyo’i chydweithiwr.

Yn ôl Nigel Farage, arweinydd Plaid Brexit, roedd ei hymateb “heb urddas ac yn gas”, tra bod Layla Moran, aelod seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngorllewin Rhydychen ac Abingdon, yn dweud ei bod hi wedi bod yn “annerbyniol i ddi-urddas”.