Mae’n debygol y bydd buddugoliaeth Boris Johnson a’r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol yn arwain at gryn drafod ar ddyfodol y Deyrnas Unedig.

Mae’r SNP wedi cael noson ysgubol yn yr Alban, gan ennill 55 o seddi ar ôl i Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, addo cynnal refferendwm annibyniaeth newydd yn ail hanner y flwyddyn nesaf.

Mae’n annhebygol y bydd Boris Johnson yn rhoi sêl bendith i gynnal y refferendwm, ond mae Nicola Sturgeon yn dadlau fod gan ei phlaid fandad i’w gynnal ar ôl cael eu llusgo allan o’r Undeb Ewropeaidd yn erbyn eu hewyllys.

“All yr Alban ddim cael ei chadw yn y Deyrnas Unedig yn erbyn ei hewyllys,” meddai.

“Dim ond trwy ganiatâd y gall wneud hynny, felly mae’n rhaid bod gan yr Alban y gallu i benderfynu’r cwestiwn hwnnw.

“Yna mater i bobol yr Alban ei benderfynu yw e.”

Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r DUP wedi colli eu harweinydd yn San Steffan, Nigel Dodds, wrth i John Finucane, ymgeisydd Sinn Fein, gipio’i sedd yn Belffast.

Mae’r blaid wedi colli dau aelod seneddol allan o ddeg, ar ôl bod yn cefnogi’r Llywodraeth Geidwadol flaenorol.

Wrth i Boris Johnson gael rhwydd hynt i fwrw ymlaen â’i gynllun Brexit, mae dyfodol Iwerddon yn aneglur yn sgil ffrae tros ffiniau.

Mae mwy o genedlaetholwyr Gwyddelig yn San Steffan nag o unoliaethwyr bellach.

Yn dilyn pôl ar ffiniau Iwerddon ym mis Medi, roedd mwyafrif bach o blaid uno Iwerddon tra bod 44% o Albanwyr bellach o blaid annibyniaeth.