Mae Boris Johnson yn dweud bod ganddo fe a’r Ceidwadwyr fandad bellach i fwrw ymlaen gyda Brexit ar ôl sicrhau mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol.

Roedd angen 326 o seddi arnyn nhw ac fe ddaeth cadarnhad o’r mwyafrif wrth i Dennis Skinner, un o aelodau seneddol amlycaf Llafur golli ei sedd yn Bolsover.

Daw buddugoliaeth y Ceidwadwyr wrth iddyn nhw lwyddo i ddenu pleidleisiau gan gefnogwyr Llafur oedd wedi cael eu dadrithio gan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn a’r rheiny oedd am weld Brexit yn mynd rhagddo.

Dywed Boris Johnson y bydd Prydain nawr yn gallu gadael yr Undeb Ewropeaidd fis nesaf, gyda’r addewid o adael erbyn Ionawr 31.

Yn y cyfamser, mae Jeremy Corbyn yn dweud na fydd e’n arwain Llafur mewn etholiad cyffredinol arall, ond mae’n gwrthod dweud ar hyn o bryd a fydd e’n camu o’r neilltu ar unwaith.

‘Ceidwadaeth Un Genedl’

Mae Boris Johnson yn dathlu buddugoliaeth ei ‘Geidwadaeth Un Genedl’ ar noson lwyddiannus i’r Ceidadwyr.

“Mae hi’n edrych yn debygol fod y llywodraeth Ceidwadaeth Un Genedl hon wedi derbyn mandad pwerus i gwblhau Brexit,” meddai ar ôl ennill ei sedd ei hun yn Uxbridge.

“Yn anad dim, dw i eisiau diolch i bobol y wlad hon am droi allan i bleidleisio mewn etholiad ym mis Rhagfyr nad oedden ni am ei alw, ond un dw i’n meddwl sydd yn etholiad hanesyddol sydd yn rhoi’r cyfle i ni, yn y llywodraeth newydd hon, i barchu ewyllys ddemocrataidd pobol Prydain i newid y wlad hon er gwell ac i ryddhau potensial holl bobol y wlad hon.”