Ar ddiwrnod etholiad mae arweinwyr y prif bleidiau wedi apelio unwaith yn rhagor ar y cyhoedd i’w cefnogi.

Mae Boris Johnson, Prif Weinidog Prydain wedi dweud y gallai’r Ceidwadwyr fwrw ati i dynnu’r Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd pe bawn nhw’n dod i rym. 

“Dychmygwch pa mor braf bydd eistedd lawr a bwyta’ch cinio Nadolig gan wybod bod Brexit wedi ei benderfynu,” meddai arweinydd y Torïaid. 

Mae Jeremy Corbyn wedi dweud bod dau opsiwn ar gael yn yr etholiad yma – “heol Boris Johnson, â’i ddêl gyda’r [Arlywydd] Donald Trump”, neu “ffordd Llafur”.   

“Ar hyd ein heol ni byddwn yn buddsoddi yn ein gwlad, byddwn yn dod â chyni ariannol i ben, a byddwn yn ailddosbarthu cyfoeth…”

“Datrys problemau Cymru

Mae Adam Price, rweinydd Plaid Cymru hefyd wedi galw ar Gymry i gefnu ar “pleidiau mawr Sam Steffan”, ac mae wedi dweud mai “dim ond Plaid Cymru all ddatrys problemau Cymru”.

“Ni fydd pleidleisio Llafur yng Nghymru yn atal Boris Johnson,” meddai. 

“Ond bydd pleidlais dros Blaid Cymru yn golygu anfon y garfan fwyaf erioed o Aelodau Seneddol Plaid Cymru i San Steffan i frwydro dros ein gwlad.”

Gweddïo am law

Mae rhwystro’r Torïaid trwy bleidleisio tactegol yn “hollol bosib”, yn ôl Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swinson.

“Ar sail etholiadau’r gorffennol, rydym yn gwybod bod pleidleiswyr yn aml iawn yn penderfynu pleidleisio’n dactegol rhai oriau cyn bwrw’u pleidlais,” meddai.

Ac mae Nigel Farage, arweinydd The Brexit Party, yn gweddïo am “law trwm iawn iawn” gan ei fod yn credu bydd hynny o fudd i’w blaid – ac yn broblem i’r pleidiau eraill.

“Dw i’n gwybod bod ein cefnogwyr yn mynd i bleidleisio amdanom [doed a ddelo],” meddai. “Maen nhw’n credu ein neges. Maen nhw’n credu yn eu calonnau a’u pennau.”