Mae olion traed hynafol wedi cael eu darganfod gan fyfyrwraig israddedig o Loegr.

Mae’r olion yn 340 miliwn oed, a chawson nhw eu creu gan gread inuriaid sydd ddim yn annhebyg i’r crocodeil.

Edopoids yw eu henw, maen nhw ymhlith cyndeidiau hynaf amffibiaid, a dyma yw’r olion hynaf o’u math sydd erioed wedi’u cael eu darganfod yn y Deyrnas Unedig.  

Roedd yr olion oddi fewn i ffosil, a bu’n rhaid ei sganio er mwyn eu datgelu. Cafodd hynny ei wneud fel rhan o ymchwil gan fyfyrwraig o Brifysgol Birmingham. 

“Roedd yn anodd penderfynu os oedd yr olion wedi’u creu gan ddwylo neu draed,” meddai Hannah Bird. 

“Roedd hefyd yn anodd penderfynu i ba gyfeiriad yr oedden nhw’n teithio. Yn y pendraw, roeddwn yn medru dyfalu sut byddai’r amffibiad yma wedi symud pan oedd yn fyw.”