Mae disgwyl i bleidleiswyr ledled y Deyrnas Unedig heidio i’r gorsafoedd pleidleisio heddiw er mwyn bwrw pleidlais yn yr etholiad cyffredinol.

Yn raddol mae’r ddwy brif blaid wedi nesáu at ei gilydd yn y polau piniwn, ac mae’r wythnos diwethaf o ymgyrchu wedi bod yn go brysur. 

Ar dydd Llun cafodd Boris Johnson, y Prif Weinidog, ei feirniadu am gipio ffôn newyddiadurwr yn ystod cyfweliad – ymgais oedd hynny i beidio ag edrych ar lun o blentyn mewn ysbyty.

A’r diwrnod wedi hynny daeth clip sain i’r fei o Aelod Seneddol yn lladd ar Jeremy Corbyn. Roedd y gwleidydd yn aelod o’r blaid honno, a rhodd hynny ergyd i’w hymgyrch. 

Bron i bythefnos yn ôl bu ymosodiad brawychol ar London Bridge, a thaflodd hynny gysgod tros yr ymgyrchu am gyfnod wrth i’r mater droi’n wleidyddol. 

Arolygon barn

Mae arolwg barn gan The Daily Telegraph a Savanta ComRes –  a gafodd ei gyhoeddi nos Fercher – yn awgrymu y bydd y Ceidwadwyr yn ennill 5% yn fwy o’r bleidlais na Llafur.

Ond mae pôl piniwn arall – o’r darlun Prydeinig – gan Kantar yn dangos bod y Ceidwadwyr ar 44%, Llafur ar 32%, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 13%. 

Mae’r cyfan, wrth gwrs, yn dibynnu ar faint o’r cyhoedd fydd yn mentro trwy’r gwynt a’r glaw er mwyn bwrw pleidlais.