Mae nifer y bobol sydd digartref sydd wedi gorfod mynd i adrannau argyfwng wedi treblu yn yr wyth mlynedd diwethaf, gyda channoedd yn gorfod aros yno am gyfnodau hir, yn ôl ffigyrau Cymdeithas Feddygol Prydain.

Roedd yno oleuaf 36,000 o dderbyniadau pobl ddigartref i adrannau argyfwng rhwng 2018-19.

Mae hyn wedi cynyddu o 11,305 yn 2010-11 ac yn “naid arwyddocaol” o’r flwyddyn gynt.

Bu 11,986 o dderbyniadau pobol ddigartref i’r ysbyty yn 2018-19, o’i gymharu â 3,378 yn 2010-11.

Mewn un achos, fe fu’n rhaid  i un claf aros yn yr ysbyty am 462 o ddiwrnodau.