Bydd arweinydd yr SNP a phrif weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau annibyniaeth i’w wlad yn ei araith yng nghynhadledd ei blaid heddiw.

Bydd sicrhau annibyniaeth, meddai, yn galluogi’r Alban i flodeuo mewn ffordd nas gwelwyd o’r blaen.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud y byddan nhw’n cynnal refferendwm ar annibyniaeth tua diwedd cyfnod pum mlynedd y senedd.

Mae gwrthwynebwyr y Llywodraeth yn dweud eu bod nhw’n cynnal y refferendwm mor hwyr yn y dydd oherwydd eu bod nhw’n ofn colli.

Ac maen nhw’n dweud bod cefnogaeth yr SNP i gyfrifoldeb llawn dros gyllid y wlad, a all gael ei gynnwys fel ail gwestiwn ar ffurflen bleidlais y refferendwm, hefyd yn dangos eu pryder ynglŷn â’r posibilrwydd o golli’r dydd o ran y bleidlais dros annibyniaeth lwyr.

Ond bydd Alex Salmond yn dweud heddiw fod annibyniaeth yn cynnig llawer mwy i’r Alban er bod cyfrifoldeb dros gyllid yn gynnig dilys.

“Yr unig gyfyngiadau yw ein dychymyg a’n huchelgais,” meddai. “Felly, rhowch yr arfau i’r Alban, rhowch y cyfrifoldeb i bobl yr Alban, a gwelwch ein cenedl yn blodeuo fel nas gwelwyd o’r blaen.”