Mae gwarant wedi’i chyhoeddi i arestio chwaraewr rygbi’r Alban ar ôl iddo gael ei stopio am yrru ar gyflymdra o 111 milltir yr awr.

Wnaeth D’Arcy Rae ddim mynd i’r llys ar gyfer y gwrandawiad diweddaraf.

 Plediodd yn euog mewn gwrandawiad blaenorol fis Mawrth i yrru 51 milltir yr awr yn gyflymach na’r terfyn cyfreithlon yn Sir Aberdeen.

Mae’r dyn 24 oed yn chwarae i Glasgow, ac fe ymddangosodd yng nghrys yr Alban am y tro cyntaf yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym Murrayfield yn gynharach eleni.