Mae teulu Harry Dunn yn ystyried dwyn achos preifat yn erbyn Anne Sacoolas, gwraig diplomydd oedd wedi ei daro a’i ladd mewn gwrthdrawiad ger safle’r awyrlu yn Croughton yn Swydd Northampton ar Awst 27.

Cafodd Anne Sacoolas ei chyfweld gan yr heddlu yn yr Unol Daleithiau ar ôl manteisio ar ei hawliau arbennig i adael gwledydd Prydain.

Cafodd ffeil ei throsglwyddo i Wasanaeth Erlyn y Goron ar Dachwedd 1, a does dim penderfyniad hyd yn hyn ynghylch ei chyhuddo mewn perthynas â marwolaeth y dyn 19 oed.

Mae ei deulu wedi gofyn am ddau gyfarfod â’r prif erlynydd Janine Smith, sy’n dweud y bydd hi’n cyfarfod â’r teulu ar ôl gwneud penderfyniad ynghylch cyhuddiadau.

Dywed llefarydd ar ran y teulu ei fod yn “syfrdan” fod trafodaethau ynghylch achos preifat wedi gallu dechrau cyn i Wasanaeth Erlyn y Goron ddod i benderfyniad ynghylch cyhuddiadau.

Mae’n dweud bod y teulu’n “colli ffydd” yn y system gyfiawnder, ac “nad oes ganddyn nhw ddewis” ond ystyried dwyn achos preifat.