Mae’r ymosodwr rhyw, Joseph McCann, yn wynebu dedfryd o garchar am oes heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 9) am gyfres o ymosodiadau ar  11 o ferched a phlant.

Roedd Joseph McCann, 34, a oedd wedi’i garcharu am dair blynedd am fyrgleriaeth, wedi cael ei ryddhau yn dilyn camgymeriad gan y gwasanaeth prawf, ddeufis cyn iddo gyflawni cyfres o ymosodiadau.

Dros gyfnod o 15 diwrnod ym mis Ebrill a Mai roedd wedi cipio, treisio ac ymosod ar ddioddefwyr rhwng 11 a 71 oed yn Watford, Llundain a gogledd orllewin Lloegr. Cafodd ei arestio ar Fai 6.

Roedd Joseph McCann wedi gwrthod ymddangos ar gyfer yr achos yn yr Old Bailey ac wedi cuddio o dan flanced yn lle rhoi tystiolaeth.

Ddydd Gwener ddiwethaf (Rhagfyr 6) cafwyd Joseph McCann yn euog o 37 o gyhuddiadau yn ymwneud ag 11 o ddioddefwyr gan gynnwys wyth cyhuddiad o dreisio, a chipio.

Cafodd pedwar dyn a dwy ddynes eu harestio ar amheuaeth o helpu Joseph McCann wrth iddo geisio dianc rhag yr heddlu, ac maen nhw wedi’u rhyddhau tra bod yr heddlu’n parhau gyda’u hymchwiliadau.

Mae’r barnwr Mr Ustus Edis yn ystyried rhoi dedfryd o garchar am oes i Joseph McCann heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 9).